Gwobr Cambrian Medieval Celtic Studies ar gyfer ysgolheigion ifainc
Llongyfarchiadau gwresog i Michelle Bratchie ar ennill Gwobr CMCS yn 2025. Prynwch CMCS 90 (Gaeaf 2025) i ddarllen ei herthygl arobryn, 'The Colourful Worlds of Aneirin's Gododdin'.
Y mae Cyhoeddiadau CMCS yn gwahodd ceisiadau am Wobr Flynyddol CMCS werth £300. Cynigir y wobr am erthygl wreiddiol (rhwng 5,000 a 15,000 gair) ar unrhyw agwedd ar y gwledydd Celtaidd eu hiaith yn ystod yr Oesoedd Canol.
1 Ebrill 2026 fydd y dyddiad cau ar gyfer anfon erthygl i mewn (drwy atodiad e-bost at cmcspub@gmail.com). Ni ddylai erthyglau fod ar gael ar y We mewn unrhyw ffurf ac ni ddylent fod dan ystyriaeth gan gyfnodolyn arall nac ar gyfer unrhyw wobr arall sy'n cynnwys cyhoeddi. Bydd gan CMCS yr hawl i argraffu'r erthygl arobryn, os bydd adolygwyr yn ei chymeradwyo. Dylai ceisiadau fod yn gymwys i'w cyhoeddi yn CMCS yn yr un flwyddyn galendr.
Rhaid i ymgeiswyr fod yn 33 neu'n iau ar y dyddiad cau. Gan ei bod yn anodd cymharu amgylchiadau, ni ellir caniatáu eithriadau ar gyfer y rheini sydd wedi cychwyn ar eu haddysg yn hwyr, neu sydd wedi cymryd saib yn eu gyrfa, neu sydd wedi newid maes eu disgyblaeth, a.y.y.b. Dylai'r rheini, fodd bynnag, nodi i CMCS o 2022 ymlaen gynnig breindal hyd at £100 i awdur pob erthygl, waeth beth fo eu hoedran. Er bod ansawdd cyfnodolion academaidd yn llwyr ddibynnol ar eu hawduron, nid yw'r rhan fwyaf o gyhoeddwyr cyfnodolion yn rhannu unrhyw elw â'u hawduron. Gobaith Cambrian Medieval Celtic Studies yw gwrth-droi'r duedd hon.