AMDANOM

Cwmni bach academaidd sy'n canolbwyntio ar weithiau ym maes Astudiaethau Celtaidd yw Cyhoeddiadau CMCS. Cyhoeddir y cylchgrawn academaidd Cambrian Medieval Celtic Studies (CMCS) ddwywaith y flwyddyn. Mae cost tanysgrifiad i unigolion — £10 y flwyddyn — heb newid ers sefydlu'r cylchgrawn ym 1981. Patrick Sims-Williams yw'r Golygydd.

Yn ogystal â'r cylchgrawn, rydym yn cyhoeddi rhychwant o lyfrau ar bynciau Celtaidd.

Os ydych am gyhoeddi erthygl yn CMCS, neu os bydd gennych unrhyw ymholiad, cysylltwch â cmcspub@gmail.com os gwelwch yn dda.